CiC Welsh Clubs
Youth Coordinators
Eleri Mai - Ysgol Garth Olwg
RHAN O'R TÎM
Wnaeth 18 o bobl ifanc (14-15 mlwydd oed) o ysgolion y Cymer a Rhydywaun, gymeryd rhan mewn Diwrnod gweithgareddau tîm yng Nghanolfan Daerwynno, Llanwynno a drefnwyd gan Menter Iaith, fel rhan o'u cymhwyster OCN mewn cwrs fer cyfathrebu.
Ieuenctid a’r Loteri
Mae’n bleser gen i nodi bod Ieuenctid Rhondda Cynon Taf am gael llawer o fudd oddi wrth gronfa’r Loteri yn ystod y dair blynedd nesaf. Mae uned Ieuenctid Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wedi derbyn £78,763 oddi wrth y gronfa, er mwyn sicrhau bod swyddog Ieuenctid Cymraeg yn weithredol yn yr ardal ynghyd â’r gallu i gynnal nifer o brosiectau i gynyddu hyder personol y pobl ifanc, a datblygu eu defnydd o’r Iaith Gymraeg. Mae gwasanaethau Ieuenctid y Fenter ar gyfer holl ddisgyblion y Sir boed yn siarad Cymraeg neu yn dysgu. Os hoffech gymryd rhan yn y’r hwyl cysylltwch â ni ar 01685 882299.
Disgo Dechrau Tymor CIC
Cafwyd disgo a carioci i ddisgyblion blwyddyn 7 a 8 o ysgolion Rhydywaun a Gartholwg ei gynnal ar 12.9.08 yng nghanolfan Dysgu Gydol Oes, Gartholwg. Gwelwyd y bobl ifanc yn canu a dawnsio trwy gydol y noson gyda DJ Aled Wyn ar y decs. Roedd yn gyfle gwych i’r disgyblion gymysgu a chael hwyl tra’n cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Llongyfarchiadau i ferched blwyddyn 7 Ysgol Rhydywaun ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth carioci ac i Eloise a ddaeth yn fuddugol, da iawn chi!!
Fideo am Buddug
Pobl ifanc Ysgol Y Cymmer yn gweithio'n galed iawn ar yr ail prosiect ffilmio - Buddug rhan o brosiect Prosiect First Light Movies. Mae Ysgol y Cymer, CiC a Tantrwm yn gweithio mewn partneriaith i greu'r fideo..
Mi fydd y 3ydd ffilm yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r ysgolion sy'n rhan o'r brosiect mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf.

Welsh language activities outside school hours
FOR YOUNG PEOPLE IN
RHONDDA CYNON TAF
Activities are organised for Menter Iaith the Welsh Language Initiative
by our Youth Co-ordinater Dawn Williams in co-operation with Urdd Gobaith
Cymru, Rhondda Cynon Taf County Coumcil, Duke of Edinburghs Award, Boys
and Girls Clubs of Wales and individual volunteers as well as Welsh and
English Language High Schools in Rhondda Cynon Taf
Valleys Welsh Language Youth Project
Cynllun Ieuenctid
y Cymoedd
Llawr Cyntaf
9a Stryd Fawr
Pontypridd
CF73 1QJ
Ffôn 01443 407570
Ffacs 01443 493715