Home

Menter Iaith

Rhondda Cynon Taf

Newyddion 1

PRIFWEITHREDWR NEWYDD MENTER IAITH RHONDDA CYNON TAF.

PRIFWEITHREDWR NEWYDD MENTER IAITH RHONDDA CYNON TAF.
Mae Kevin Davies newydd ddechrau ar ei swydd fel Prifweithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Mae Kevin, sy’n dod o gefndir darlledu yn edrych ymlaen yn fawr iawn am yr her sydd yn ei wynebu:
“ Mae hi’n mynd i fod yn newid byd enfawr, ond yn newid rwy’n edrych ymlaen ato. ‘Rwy hefyd yn edrych ymlaen at yr her o gynnal holl weithgareddau’r Fenter fel y mae nhw ar hyn o bryd, a mewn amser datblygu’r Fenter fel bod hi’n parhau i gyflawni’r nôd o fod yn gefn ac yn sbardun i holl Gymry Cymraeg y Sir.
25/06/2008

Cwlwm Busnes yn Hoffi Coffi?

Cwlwm Busnes yn Hoffi Coffi?
Noson o sgwrsio a blasu caws Cymraeg yn y Cwtch yn Hoffi Coffi? Trefforest, Pontypridd dyna fu Cwlwm Busnes yn gwneud ar 3 Mehefin. Lleoliad hwylus i'r orsaf drên a coffi blasus iawn. Sgwrs ddifyr gan Royston O'Reilly perchennog Hoffi Coffi? - pam fod hi'n bleser ac yn synhwyrol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes. Caroline Mortimer yn esbonio ychydig am ei gwaith fel Swyddog Iaith yn RhCT a sut mae modd cael gohebiaeth y Cyngor yn Gymraeg. Dosbarthwyd llyfrynau bach gyda rhifau cyswllt llinellau Cymraeg - mynwch gopi nawr!
Cwlwm Busnes yn Hoffi Coffi?
24/06/2008

Parti Ponty 2008

Parti Ponty 2008
Mae trefniadau ar y gweill ar gyfer dathliad o fywyd Cymraeg yr ardal ym Mharti Ponty 2008.
Cofiwch y Noson lawen ar nos Iau 3 Gorffennaf a'r parti mawr ei hyn ar ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf ym Mharc Ynysangharad.
Parti Ponty 2008
25/06/2008

Gwobr Gwirfoddolwyr 2008

Gwobr Gwirfoddolwyr 2008
Cafodd Cymdeithas Gymraeg Y Maerdy ei gydnabod am ei waith amhrisiadwy yn hybu'r iaith Gymraeg yn Noson Wobrwyon Gwirfoddolwyr 2008 Interlink ar 13 Mehefin 2008. Ennillon nhw'r categori Hybu'r Gymraeg, a noddwyd gan Fwrdd yr Iaith.

Dechreuodd y Gymdeithas dros 4 mlynedd yn ôl gyda chymorth Menter Iaith a Cymunedau'n Gyntaf Y Maerdy, ac wedi tyfu a datblygu i fod yn werth cyfranogol i'r Gymraeg yn ardaloedd Y Maerdy a Glynrhedynnog, Rhondda

Aeth Marion Griffiths, cadeirydd y grwp, ymlaen i dderbyn y wobr a gyflwynwyd gan Jane Davidson, Aelod y Cynulliad. "Mae'r grwp wrth ei bodd a'r anrhydedd yma. Rydyn yn falch iawn o'n iaith ac yn awyddus iawn i'w hybu ar bob achlysur". Ymhlith y gwaith da mae'r gymdeithas wedi cyflawni roedd noson i ddathlu Gwyl Dewi i'r gymuned lle chafodd pawb hwyl gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r grwp yn cwrdd yn Nhy Teifi ar Boreau Lun 11.00-12.00.
Dyma'r cais enwebedig aeth i mewn -
Gwnaeth y grwp yma cyfraniad pwysig iawn i’r gymuned yn Y Maerdy trwy drefni gyngerdd Dydd Gwyl Dewi. Trefnwyd noson o adloniant i’r cyhoedd yn cynnwys côr YGG Llyn y Forwyn, telynydd, Nia Glyn Thomas o YGG Y Cymmer a chwmni Sglein a wnaeth cyflwyniad Ymwybyddiaeth yr Iaith Gymraeg. Ar ôl y cyngerdd roedd lluniaeth ysgafn ar gael.Cynhaliwyd y noson yn ddwyieithog i sicrhau bod pawb yn gallu deall a mwynhau.Roedd y noson yn gyfle gwych i rhwng cenhedloedd mwynhau amser gyda'i gilydd heb anawsterau ieithyddol. Bu Cymdeithas Cymraeg y Maerdy yn llwyddiannus wrth ennill grant o Interlink. Roedd hyn yn golygu bod unrhyw rwystrau ariannol wedi ei diddymu sydd yn gallu bodloni mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf. Roedd Ty Teifi dan sang ar y noson a chawsant adborth da iawn yn ôl o’r cyhoedd yn gofyn am fwy o gyfleoedd fel hyn i'r teulu i gyd mwynhau.
Gwobr Gwirfoddolwyr 2008
16/06/2008
Beth sy'n digwydd

Digwyddiadau

Menter Iaith
Parti Ponty - Diwrnod o hwyl i'r teulu cyfan. Adloniant, sioeau, stondinau, gemau.
Parc Ynysangharad, Pontypridd
10yb i 5yp Dydd Sadwrn 05/07/2008
Damage
Noson Gomedi Gethin Thomas a Daniel Glyn
Theatr Garth Olwg, Pentre'r Eglwys
8yh Dydd Gwener 11/07/2008
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Eisteddfod Caerdydd
Caeau Pontcanna, Caerdydd
Dydd Sadwrn 02/08/2008


Cliciwch yma i brynu a chefnogi
Menter Iaith

70 Ymweliad Heddiw, Cyfanswm 56969

Menter Iaith
Rhondda Cynon
Taf

Bwrdd yr Iaith
Top
Prynwch Yma!