Gwybodaeth Pellach
|
CLYBIAU CYMRAEG CIC
Ieuenctid 1Disgo Dechrau Tymor CICCafwyd disgo a carioci i ddisgyblion blwyddyn 7 a 8 o ysgolion Rhydywaun a Gartholwg ei gynnal ar 12.9.08 yng nghanolfan Dysgu Gydol Oes, Gartholwg. Gwelwyd y bobl ifanc yn canu a dawnsio trwy gydol y noson gyda DJ Aled Wyn ar y decs. Roedd yn gyfle gwych i’r disgyblion gymysgu a chael hwyl tra’n cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Llongyfarchiadau i ferched blwyddyn 7 Ysgol Rhydywaun ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth carioci ac i Eloise a ddaeth yn fuddugol, da iawn chi!! ![]() 15/09/2008 Fideo am Buddug![]() Pobl ifanc Ysgol Y Cymmer yn gweithio'n galed iawn ar yr ail prosiect ffilmio - Buddug rhan o brosiect Prosiect First Light Movies. Mae Ysgol y Cymer, CiC a Tantrwm yn gweithio mewn partneriaith i greu'r fideo..
Mi fydd y 3ydd ffilm yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf. Mae'r ysgolion sy'n rhan o'r brosiect mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf. ![]() 11/05/2008 Ieuenctid a’r LoteriMae’n bleser gen i nodi bod Ieuenctid Rhondda Cynon Taf am gael llawer o fudd oddi wrth gronfa’r Loteri yn ystod y dair blynedd nesaf. Mae uned Ieuenctid Menter Iaith Rhondda Cynon Taf wedi derbyn £78,763 oddi wrth y gronfa, er mwyn sicrhau bod swyddog Ieuenctid Cymraeg yn weithredol yn yr ardal ynghyd â’r gallu i gynnal nifer o brosiectau i gynyddu hyder personol y pobl ifanc, a datblygu eu defnydd o’r Iaith Gymraeg. Mae gwasanaethau Ieuenctid y Fenter ar gyfer holl ddisgyblion y Sir boed yn siarad Cymraeg neu yn dysgu. Os hoffech gymryd rhan yn y’r hwyl cysylltwch â ni ar 01685 882299. 15/09/2008 Cael hwyl wrth ddringo![]() Trefnodd CiC i griw Clwb Cymraeg Ysgol y Ddraenen Wen fynd i ddringo draw ym Medlinog ar 26 Ebrill 2008. cafodd y criw hwyl a phrofiad arbennig wrth feistroli'r gamp. ![]() 29/04/2008
|
Clybiau CIC

I BOBL IFANC RHONDDA CYNON TAF
Trefnir gweithgareddau ieuenctid y Fenter mewn cydweithrediad ag Urdd Gobaith Cymru, Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf, Gwobr Dug Caeredin, YMCA, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru a gwirfoddolwyr unigol yn ogystal ag ysgolion uwchradd Cymraeg a Saesneg Rhondda Cynon Taf.
Cynllun Ieuenctid
y Cymoedd
Canolfan yr Urdd
Wind Street,
Aberdar
Rhondda Cynon Taf.
CF44 7ES
01685 882299 Fax 01443 226386