Cynllun Gofal Haf Garth Olwg
Mae'r cynllun bron â dod i ben am flwyddyn arall, ond fyddwn ni dal yna tan Awst 13eg. Os hoffech plentyn fynychu, yna £15 y dydd neu £65 am 5 diwrnod. Cysylltwch â swyddfa'r Fenter am fwy o fanylion.
CYRSIAU I OEDOLION DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Mae'r cyrsiau yma yn cychwyn Mis Medi mewn canolfannau dros y Sir. Gan ein bod fel Cymry Cymraeg wedi bod yn galw am gyrsiau o'r fath, mae'n ddyletswydd arnom ni iw cefnogi nawr eu bod yn cael eu darparu.
Canolfan Addysg Treorchi, Horeb Street, Treorchi, CF42 6PL
Cwrs Ffrangeg i ddechreuwyr. Pob Nos Iau rhwng 7.00 a 9.00 Dechrau : 23/09/10 .
10 sesiwn am £38/£10(gostyngiadau)
Llyfrgell Pontypridd, Library Road Pontypridd CF37 2DY
CWRS MEWN DIWYLLIANT CYMREIG Pob Dydd Mawrth rhwng 13.00 a 15.00
Dechrau : 21/09/10 10 sesiwn am £38/£10(gostyngiadau)
Neuadd Hafod, Trehafod, Porth:
Almaeneg i ddechreuwyr
Pob Nos Lun rhwng 13.00 -15.00 Yn dechrau 20/09/10 ac yn rhedeg am 10 wythnos £38/£10(gostyngiadau)
Cerrig Sarn i Dechnoleg Gwybodaeth
Pob Dydd Iau 18.00 - 20.00 Dechrau 23/9/10 ac yn rhedeg am 15 wythnos £52/10(gostyngiadau)
Canolfan Addysg Aman Godreaman St, Aberdâr, CF44 6DF
Sbaeneg i ddechreuwyr
Pob Nos Fawrth rhwng 7.00-9.00 Dechrau : 21/09/10 10 sesiwn am £38/£10(gostyngiadau)
I gadw lle ar unrhyw un o'r cyrsiau uchod, ffoniwch 01443 744 175 neu e-bostiwch Adulteducation@rhondda-cynon-taff.gov.uk