|
Gorffennaf 2008 Prifweithredwr Newydd
Mae Kevin Davies newydd ddechrau ar ei swydd fel Prifweithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf. Mae Kevin, sy’n dod o gefndir darlledu yn edrych ymlaen yn fawr iawn at yr her sydd yn ei wynebu :
“ Mae hi’n mynd i fod yn newid byd enfawr, ond yn newid rwy’n edrych ymlaen ato. ‘Rwy hefyd yn edrych ymlaen at yr her o gynnal holl weithgareddau’r Fenter fel y maen nhw ar hyn o bryd, ac mewn amser datblygu’r Fenter fel ei bod hi’n parhau i gyflawni’r nod o fod yn gefn ac yn sbardun i holl Gymry Cymraeg y Sir.
Newid Staff
Dymunwn yn dda i nifer o aelodau staff y Fenter sydd wedi symund i swyddi newydd. Mae Helen Davies, Swddog Gofal Plant, wedi mynd i weithio i Brifysgol Morgannwg. Croesawn Sarah Thomas i’r swydd Gofal Plant. Mae Geraint Bowen, Pennaeth Cyllid, wedi cael swydd yn Fro. Mae Leonnie Horton, Swyddog Ieuenctid wedi cael swydd yn y Fro hefyd. Mae Helena Jones, Swyddog Busnes, wedi cael swydd yn Nhrefforest. Diolch i’r pedwar am eu cyfraniad sylweddol i’r Fenter a dymuniadau gorau yn eich swyddi newydd.
Gwobr Am Wirfoddoli
Cafodd Cymdeithas Gymraeg Y Maerdy ei chydnabod am ei gwaith amhrisiadwy yn hybu'r iaith Gymraeg yn Noson Wobrwyo Gwirfoddolwyr 2008 Interlink. Enillon nhw'r categori Hybu'r Gymraeg, a noddwyd gan Fwrdd yr Iaith.
Dechreuodd y Gymdeithas dros 4 blynedd yn ôl gyda chymorth Menter Iaith a Chymunedau'n Gyntaf Y Maerdy, ac mae wedi tyfu a datblygu i wneud cyfraniad sylweddol i'r Gymraeg yn ardaloedd Y Maerdy a Glynrhedynnog, Rhondda.
Aeth Marion Griffiths, cadeirydd y grŵp, ymlaen i dderbyn y wobr a gyflwynwyd gan Jane Davidson, Aelod Cynulliad. Mae'r grŵp yn cwrdd yn Nhŷ Teifi ar foreau Llun 11.00-12.00.
Cynlluniau Chwarae
Cynhelir Cynlluniau Chwarae y Fenter mewn chwe lleoliad o ddydd Llun i ddydd Gwener 21/7/2008 i 29/8/2008 rhwng 10 a 12 y bore. Y lleoliadau yw Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Canolfan Ieuenctid Bronllwyn, Ysgol Gyfun Llanhari, Ysgol Gynradd Gymraeg Llynyforwyn, YMCA Pontypridd, Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae mynediad am ddim.
Cwlwm Busnes
Noson o sgwrsio a blasu caws Cymraeg yn y Cwtch yn Hoffi Coffi? Trefforest, Pontypridd dyna fu Cwlwm Busnes yn ei gwneud ar 3 Mehefin. Lleoliad hwylus i'r orsaf drên a coffi blasus iawn. Sgwrs ddifyr gan Royston O'Reilly perchennog Hoffi Coffi? - pam fod hi'n bleser ac yn synhwyrol i ddefnyddio'r Gymraeg mewn busnes. Hefyd roedd Caroline Mortimer yn esbonio ychydig am ei gwaith fel Swyddog Iaith yn RhCT a sut mae modd cael gohebiaeth y Cyngor yn Gymraeg. Dosbarthwyd llyfrynnau bach gyda rhifau cyswllt llinellau Cymraeg - mynnwch gopi nawr!
13/08/2008
|